1 Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd erailla'i godi'n uwch na'r bryniau.
2 Bydd y gwledydd i gyd yn llifo ynoa llawer o bobl yn mynd yno a dweud:“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,a mynd i deml Duw Jacob,iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
3 Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell.Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradra'u gwaywffyn yn grymanau tocio.Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
4 Bydd pawb yn eistedd dan ei winwyddena'i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo'r peth!
5 Tra mae'r gwledydd o'n cwmpasyn dilyn eu duwiau eu hunain,byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duwam byth bythoedd!
6 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n galw'r rhai cloff,ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl,a'r rhai wnes i eu hanafu.