3 Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell.Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradra'u gwaywffyn yn grymanau tocio.Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
4 Bydd pawb yn eistedd dan ei winwyddena'i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo'r peth!
5 Tra mae'r gwledydd o'n cwmpasyn dilyn eu duwiau eu hunain,byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duwam byth bythoedd!
6 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n galw'r rhai cloff,ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl,a'r rhai wnes i eu hanafu.
7 Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl;a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref.Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhwar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!”
8 A byddi di – y tŵr i wylio'r praidd,sef dinas gaerog pobl Seion –yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl.Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem.
9 Ond nawr, pam wyt ti'n gweiddi a sgrechian?Oes gen ti ddim brenin i dy helpu?Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw?Ai dyna pam ti'n gwingo mewn poenfel gwraig ar fin cael babi?