5 Tra mae'r gwledydd o'n cwmpasyn dilyn eu duwiau eu hunain,byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duwam byth bythoedd!
6 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n galw'r rhai cloff,ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl,a'r rhai wnes i eu hanafu.
7 Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl;a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref.Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhwar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!”
8 A byddi di – y tŵr i wylio'r praidd,sef dinas gaerog pobl Seion –yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl.Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem.
9 Ond nawr, pam wyt ti'n gweiddi a sgrechian?Oes gen ti ddim brenin i dy helpu?Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw?Ai dyna pam ti'n gwingo mewn poenfel gwraig ar fin cael babi?
10 Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion,fel gwraig mewn poen wrth gael babi!Bydd rhaid i chi adael y ddinasa gwersylla yng nghefn gwlad,ar eich ffordd i Babilon.Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub,a'ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn.
11 Ar hyn o bryd mae gwledydd lawerwedi casglu i ymladd yn dy erbyn.“Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw.“Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!”