5 Bydd e'n dod â heddwch i ni.Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tirac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai,bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro!
6 Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf;gwlad Nimrod gyda llafnau parod!Bydd ein brenin yn ein hachubpan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad,ac yn ceisio croesi ein ffiniau.
7 Bydd pobl Jacob sydd ar ôlar wasgar yng nghanol y bobloedd,fel y gwlith mae'r ARGLWYDD yn ei anfon,neu gawodydd o law ar laswellt –sydd ddim yn dibynnu ar boblna disgwyl am eu caniatâd cyn dod.
8 Bydd pobl Jacob sydd ar ôlyn byw yn y gwledydd,ar wasgar yng nghanol y bobloedd.Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion,neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid –yn rhydd i ladd a rhwygoheb neb i'w stopio.
9 Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn,a dinistrio dy elynion i gyd!
10 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd –y ceffylau a'r cerbydau rhyfel.
11 Bydda i'n dinistrio trefi'r wladac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.