1 Dw i mor ddigalon!Dw i fel rhywun yn chwilio'n daer am ffrwythar ôl i'r ffrwythau haf a'r grawnwin gael eu casglu.Does dim un swp o rawnwin ar ôl,na'r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw.
2 Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad!Mae'r bobl onest i gyd wedi mynd.Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall;maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i'w gilydd.
3 Maen nhw'n rai da am wneud drwg! –mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib;does ond rhaid i'r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiaua byddan nhw'n dyfeisio rhyw sgam i'w bodloni.
4 Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain,a'r mwya gonest fel llwyn o fieri.Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio;mae dydd y farn yn dod ar frys –mae anhrefn llwyr ar ei ffordd!
5 Peidiwch trystio neb!Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau,na hyd yn oed eich gwraig –peidiwch dweud gair wrthi hi!
6 Fydd mab ddim yn parchu ei dad,a bydd merch yn herio ei mam;merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf!