3 Maen nhw'n rai da am wneud drwg! –mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib;does ond rhaid i'r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiaua byddan nhw'n dyfeisio rhyw sgam i'w bodloni.
4 Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain,a'r mwya gonest fel llwyn o fieri.Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio;mae dydd y farn yn dod ar frys –mae anhrefn llwyr ar ei ffordd!
5 Peidiwch trystio neb!Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau,na hyd yn oed eich gwraig –peidiwch dweud gair wrthi hi!
6 Fydd mab ddim yn parchu ei dad,a bydd merch yn herio ei mam;merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf!
7 Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help.Dw i'n disgwyl yn hyderus am y Duw sy'n achub.Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando arna i.
8 “Peidiwch dathlu'n rhy fuan, elynion!Er fy mod wedi syrthio, bydda i'n codi eto.Er bod pethau'n dywyll ar hyn o bryd,bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi.
9 Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDDam fy mod wedi pechu yn ei erbyn.Ond yna bydd e'n ochri gyda miac yn ennill yr achos ar fy rhan.Bydd yn fy arwain i allan i'r golau;bydda i'n cael fy achub ganddo.