4 Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain,a'r mwya gonest fel llwyn o fieri.Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio;mae dydd y farn yn dod ar frys –mae anhrefn llwyr ar ei ffordd!
5 Peidiwch trystio neb!Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau,na hyd yn oed eich gwraig –peidiwch dweud gair wrthi hi!
6 Fydd mab ddim yn parchu ei dad,a bydd merch yn herio ei mam;merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf!
7 Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help.Dw i'n disgwyl yn hyderus am y Duw sy'n achub.Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando arna i.
8 “Peidiwch dathlu'n rhy fuan, elynion!Er fy mod wedi syrthio, bydda i'n codi eto.Er bod pethau'n dywyll ar hyn o bryd,bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi.
9 Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDDam fy mod wedi pechu yn ei erbyn.Ond yna bydd e'n ochri gyda miac yn ennill yr achos ar fy rhan.Bydd yn fy arwain i allan i'r golau;bydda i'n cael fy achub ganddo.
10 Bydd fy ngelynion yn gweld hyn,a byddan nhw'n profi siom ac embaras.Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw,y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’,yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.”