1 Annwyl Theoffilws:Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf am y pethau aeth Iesu ati i'w gwneud a'u dysgu
2 cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i'r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân.
3 Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu.
4 Un o'r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi ei addo. Dych chi'n cofio fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen.
5 Roedd Ioan yn bedyddio gyda dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio gyda'r Ysbryd Glân.”
6 Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw'n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti'n mynd i ryddhau Israel a'i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?”
7 Ateb Iesu oedd: “Duw sy'n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy'r amserlen mae Duw wedi ei threfnu.