Actau 7 BNET

Steffan yn annerch y Sanhedrin

1 Dyma'r archoffeiriad yn gofyn iddo, “Ydy'r cyhuddiadau yma'n wir?”

2 A dyma oedd ateb Steffan: “Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandwch arna i. Roedd y Duw gogoneddus wedi ymddangos i Abraham pan oedd e'n dal i fyw yn Mesopotamia – cyn iddo symud i Haran hyd yn oed.

3 ‘Dw i am i ti adael dy wlad a'th bobl,’ meddai Duw wrtho, ‘a mynd i ble bydda i'n ei ddangos i ti.’

4 “Felly gadawodd wlad y Caldeaid, a setlo i lawr yn Haran. Wedyn, ar ôl i'w dad farw, dyma Duw yn ei arwain ymlaen i'r wlad yma dych chi'n byw ynddi nawr.

5 Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma – dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai'r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion ryw ddydd – a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed!

6 Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw'n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.

7 Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu cam-drin nhw’ meddai Duw, ‘a chân nhw adael y wlad honno a dod i'm haddoli i yn y fan yma.’

8 Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o'r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe'n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel.

9 “Roedd y dynion hynny (meibion Jacob) yn genfigennus o'u brawd Joseff, dyma nhw'n ei werthu fel caethwas i'r Aifft. Ond roedd Duw gyda Joseff

10 ac yn ei achub o bob creisis. Roedd Duw wedi gwneud Joseff yn ddyn doeth iawn. Daeth i ennill parch y Pharo, brenin yr Aifft, a dyma'r Pharo yn ei benodi yn llywodraethwr ar y wlad gyfan, a'i wneud yn gyfrifol am redeg y palas brenhinol.

11 “Ond bryd hynny dyma newyn yn taro'r Aifft i gyd a gwlad Canaan. Roedd ein pobl ni'n dioddef yn ofnadwy am fod dim bwyd yn unman.

12 Clywodd Jacob fod gwenith ar werth yn yr Aifft, ac anfonodd ei feibion (sef ein cyndeidiau ni) yno i brynu bwyd.

13 Pan aethon nhw yno yr ail waith, dwedodd Joseff pwy oedd wrth ei frodyr. Dyna pryd ddaeth y Pharo i wybod am deulu Joseff.

14 Felly dyma Joseff yn cael Jacob a'r teulu cyfan (saith deg pump o bobl i gyd)

15 i fynd i lawr i'r Aifft. Yn yr Aifft y buodd Jacob farw – a'i feibion, ein cyndeidiau ni.

16 Ond cafodd eu cyrff eu cario yn ôl i Sechem a'u claddu yn y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan feibion Hamor.

17 “Wrth i'r amser agosáu i Dduw wneud yr hyn oedd wedi ei addo i Abraham, roedd nifer ein pobl ni yn yr Aifft wedi tyfu'n fawr.

18 Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft – un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.

19 Buodd hwnnw'n gas iawn i'n pobl ni, a'u gorfodi nhw i adael i'w babis newydd eu geni farw.

20 “Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi ei fagu o'r golwg yn eu cartref am dri mis.

21 Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a'i fagu fel petai'n blentyn iddi hi ei hun.

22 Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag oedd e'n wneud.

23 “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â'i bobl ei hun, sef pobl Israel.

24 Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i'w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr.

25 Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi ei anfon i'w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim.

26 Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â'i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi'n frodyr i'ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn?’

27 “Ond dyma'r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o'r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?

28 Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’

29 Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o'r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a cafodd dau fab eu geni iddo.

30 “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân.

31 Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud,

32 ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o'i flaen.

33 Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti'n sefyll ar dir cysegredig.

34 Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’

35 “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi ei wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw!

36 Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd.

37 “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi.’

38 Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda'i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i'w phasio ymlaen i ni.

39 Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i'r Aifft!

40 Dyma nhw'n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’

41 Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi ei lunio â'i dwylo eu hunain!

42 Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel?

43 Na! Mae'n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw'r sêr, a'r eilunod wnaethoch chi i'w haddoli nhw. Felly dw i'n mynd i'ch anfon chi'n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’

44 “Roedd ‛pabell y dystiolaeth‛ gyda'n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi ei ddangos i Moses.

45 Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o'r wlad yma gan Dduw, dyma nhw'n mynd â'r babell gyda nhw. Ac roedd hi'n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd.

46 “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob.

47 Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu'r deml.

48 Ond wedyn, dydy'r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi eu codi gan ddynion! Yn union fel mae'r proffwyd yn dweud:

49 ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai'r Arglwydd. Ble dych chi'n mynd i'w roi i mi i orffwys?

50 Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli?’

51 “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi'n union yr un fath â'ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân!

52 Fuodd yna un proffwyd gafodd mo'i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. A dych chi nawr wedi ei fradychu a'i ladd e!

53 Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi ei derbyn hi gan angylion!”

Steffan yn cael ei labyddio i farwolaeth

54 Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw'n troi'n fygythiol,

55 ond roedd Steffan yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde.

56 “Edrychwch!” meddai, “dw i'n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi ei anrhydeddu – mae'n sefyll ar ochr dde Duw.”

57 Dyma nhw'n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw'n rhuthro ymlaen i ymosod arno.

58 Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul.

59 Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i'w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.”

60 Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi'n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw'n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28