Actau 11 BNET

Pedr yn esbonio beth wnaeth

1 Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod pobl o genhedloedd eraill wedi credu neges Duw.

2 Ond pan aeth Pedr yn ôl i Jerwsalem, cafodd ei feirniadu'n hallt gan rai o'r credinwyr Iddewig,

3 “Rwyt ti wedi mynd at bobl o genhedloedd eraill a hyd yn oed bwyta gyda nhw!” medden nhw.

4 Dyma Pedr yn dweud wrthyn nhw'n union beth oedd wedi digwydd:

5 “Roeddwn i yn Jopa, ac wrthi'n gweddïo ryw ddiwrnod pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o'r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i.

6 Edrychais i mewn ynddi, ac roedd pob math o anifeiliaid – rhai gwyllt, ymlusgiaid ac adar.

7 Wedyn dyma lais yn dweud wrtho i, ‘Cod Pedr, lladd beth rwyt ti eisiau, a'i fwyta.’

8 “Dwyt ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta!”

9 “Ond wedyn dyma'r llais o'r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’

10 Digwyddodd yr un peth dair gwaith cyn i'r gynfas gael ei thynnu yn ôl i fyny i'r awyr.

11 “Y funud honno dyma dri dyn oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea yn cyrraedd y tu allan i'r tŷ lle roeddwn i'n aros.

12 Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni'n mynd i mewn i dŷ'r dyn oedd wedi anfon amdana i.

13 Dwedodd wrthon ni ei fod wedi gweld angel yn ei dŷ, a bod yr angel wedi dweud wrtho, ‘Anfon i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr.

14 Bydd e'n dweud sut y gelli di a phawb sy'n dy dŷ gael eu hachub.’

15 “Pan ddechreuais i siarad, dyma'r Ysbryd Glân yn dod arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ni ar y dechrau.

16 A dyma fi'n cofio beth roedd yr Arglwydd Iesu wedi ei ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio gyda dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio gyda'r Ysbryd Glân.’

17 Felly gan fod Duw wedi rhoi'r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?”

18 Pan glywon nhw'r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae'n rhaid fod Duw felly'n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw.

Yr eglwys yn Antiochia

19 O ganlyniad i'r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw'n rhannu'r neges, ond dim ond gydag Iddewon.

20 Ond yna dyma'r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill.

21 Roedd Duw gyda nhw, a dyma nifer fawr o bobl yn credu ac yn troi at yr Arglwydd.

22 Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd.

23 Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo.

24 Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac yn credu'n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd.

25 Aeth Barnabas yn ei flaen i Tarsus wedyn i edrych am Saul.

26 Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag e yn ôl i Antiochia. Buodd y ddau yno gyda'r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. (Gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.)

27 Rywbryd yn ystod y flwyddyn honno daeth rhyw broffwydi o Jerwsalem i Antiochia.

28 Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.)

29 Felly dyma'r credinwyr yn Antiochia yn penderfynu helpu eu brodyr a'u chwiorydd yn Jwdea, drwy i bawb gyfrannu cymaint ag y gallai.

30 Dyma nhw'n gwneud hynny, a Barnabas a Saul gafodd eu dewis i fynd â'r rhodd i arweinwyr eglwys Jerwsalem.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28