Actau 19 BNET

Paul yn Effesus

1 Tra roedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr,

2 a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?”“Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna'r fath beth ag Ysbryd Glân!”

3 “Felly pa fedydd gawsoch chi?” meddai Paul.“Bedydd Ioan,” medden nhw.

4 Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.”

5 Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw'n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu.

6 Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw'n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo.

7 (Roedd yno ryw ddwsin o ddynion i gyd.)

8 Am dri mis aeth Paul i'r synagog, a siarad yn gwbl agored yno, a cheisio perswadio'r bobl am deyrnasiad Duw.

9 Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig – yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu.

10 Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.

11 Roedd Duw yn gwneud gwyrthiau anhygoel drwy Paul.

12 Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ag ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi ei gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw.

13 Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw.

14 (Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw – ac roedd saith ohonyn nhw).

15 Dyma'r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i'n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?”

16 A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.

17 Clywodd pawb yn Effesus beth oedd wedi digwydd – yr Iddewon a phawb arall. Daeth ofn drostyn nhw i gyd, ac roedd enw'r Arglwydd Iesu yn cael ei barchu fwy fyth.

18 Dyma lawer o'r bobl wnaeth gredu yn cyfaddef yn agored y pethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud.

19 Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw'n dod a'r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi yn gyhoeddus. Roedd y llyfrau gafodd eu llosgi yn werth ffortiwn – dros 50,000 drachma yn ôl un amcangyfrif.

20 Fel hyn roedd neges yr Arglwydd Iesu yn mynd ar led ac yn mynd yn fwy a mwy dylanwadol.

21 Ar ôl hyn i gyd, dyma Paul yn penderfynu fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a galw heibio Macedonia ac Achaia ar ei ffordd. “Wedyn ar ôl bod yn Jerwsalem,” meddai, “mae'n rhaid i mi ymweld â Rhufain.”

22 Ond arhosodd yn Asia am ychydig mwy, ac anfon Timotheus ac Erastus o'i flaen i Macedonia.

Y reiat yn Effesus

23 Tua'r adeg yna buodd yna dwrw mawr yn Effesus ynglŷn â Ffordd yr Arglwydd.

24 Roedd gof arian o'r enw Demetrius yn rhedeg busnes gwneud modelau bach o deml y dduwies Artemis, ac yn cyflogi nifer o weithwyr.

25 Daeth â'r gweithwyr i gyd at ei gilydd, a gwahodd pobl eraill oedd â busnesau tebyg. Dwedodd wrthyn nhw, “Ffrindiau, y busnes yma ydy'n bywoliaeth ni – mae'n gwneud arian da i ni.

26 Ond, fel dych chi'n gwybod, mae'r dyn Paul yma wedi llwyddo i berswadio lot fawr o bobl bod y delwau dŷn ni'n eu gwneud ddim yn dduwiau o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud hyn, dim yn unig yma yn Effesus, ond bron drwy dalaith Asia i gyd.

27 Mae peryg nid yn unig i'n busnes ni fynd i'r wal, ond hefyd i deml Artemis golli ei dylanwad, ac i'r dduwies fawr ei hun, sy'n cael ei haddoli ar hyd a lled Asia, golli ei statws!”

28 Wrth glywed beth oedd gan Demetrius i'w ddweud, dyma'r dyrfa'n cynhyrfu'n lân a dechrau gweiddi: “Artemis yr Effesiaid am byth!”

29 Cyn bo hir roedd y ddinas i gyd yn ferw gwyllt. Dyma nhw'n dal Gaius ac Aristarchus (dau o Macedonia oedd wedi bod yn teithio gyda Paul), a'u llusgo nhw i'r amffitheatr enfawr oedd yno.

30 Roedd Paul eisiau mynd i mewn i wynebu'r dyrfa, ond wnaeth y disgyblion ddim gadael iddo.

31 Dyma hyd yn oed rhai o swyddogion y dalaith roedd Paul yn ffrindiau â nhw yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn.

32 Roedd y dyrfa oedd wedi casglu mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen!

33 Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon.

34 Ond pan ddeallodd y dyrfa ei fod yn Iddew, dyma nhw'n dechrau gweiddi gyda'i gilydd eto, “Artemis yr Effesiaid am byth!” Aeth y siantio ymlaen yn ddi-stop am tua dwy awr.

35 Clerc y ddinas lwyddodd i dawelu'r dyrfa yn y diwedd, ac meddai: “Bobl Effesus. Mae pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai yn ein dinas ni mae teml y dduwies fawr Artemis, ac mai ni sy'n gwarchod y ddelw ohoni ddaeth i lawr o'r nefoedd.

36 Does neb yn gallu gwadu hynny, felly mae'n bryd i chi dawelu, a pheidio gwneud dim byd byrbwyll.

37 Dydy'r dynion ddaethoch chi â nhw yma ddim yn euog o ddwyn unrhyw beth o'r deml nac o gablu ein duwies ni.

38 Felly, os oes gan Demetrius a'i ffrindiau gwyn yn erbyn rhywun, mae llysoedd i ddelio â'r mater, a barnwyr. Dyna'r lle i ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun.

39 Ac os oes unrhyw beth pellach, caiff ei setlo mewn cyfarfod cyhoeddus swyddogol.

40 Mae peryg i ni gael ein cyhuddo o ddechrau reiat o achos beth sydd wedi digwydd yma heddiw. A petai hynny'n digwydd, beth fydden ni'n ei ddweud wrth yr awdurdodau? – Does dim esgus am y peth.”

41 Ar ôl dweud hyn anfonodd bawb adre.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28