Actau 4 BNET

Pedr ac Ioan o flaen y Sanhedrin

1 Tra oedd Pedr ac Ioan wrthi'n siarad â'r bobl dyma'r offeiriaid yn dod draw atyn nhw gyda phennaeth gwarchodlu'r deml a rhai o'r Sadwceaid.

2 Doedden nhw ddim yn hapus o gwbl fod Pedr ac Ioan yn dysgu'r bobl am Iesu ac yn dweud y byddai pobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw.

3 Felly dyma nhw'n arestio'r ddau a'u cadw yn y ddalfa dros nos am ei bod hi wedi mynd yn hwyr yn y dydd.

4 Ond roedd llawer o'r bobl a glywodd beth roedden nhw'n ei ddweud wedi dod i gredu. Erbyn hyn roedd tua pum mil o ddynion yn credu yn Iesu, heb sôn am y gwragedd a'r plant!

5 Y diwrnod wedyn dyma'r cyngor, sef yr arweinwyr a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, yn cyfarfod yn Jerwsalem.

6 Roedd Annas, yr archoffeiriad, yno, hefyd Caiaffas, Ioan, Alecsander ac aelodau eraill o deulu'r archoffeiriad.

7 Dyma nhw'n galw Pedr ac Ioan i ymddangos o'u blaenau a dechrau eu holi: “Pa bŵer ysbrydol, neu pa enw wnaethoch chi ei ddefnyddio i wneud hyn?”

8 Dyma Pedr, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, yn eu hateb: “Arweinwyr a henuriaid y genedl.

9 Ydyn ni'n cael ein galw i gyfrif yma heddiw am wneud tro da i ddyn oedd yn methu cerdded? Os dych chi eisiau gwybod sut cafodd y dyn ei iacháu,

10 dweda i wrthoch chi. Dw i am i bobl Israel i gyd wybod! Enw Iesu y Meseia o Nasareth sydd wedi iacháu y dyn yma sy'n sefyll o'ch blaen chi. Yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e yn ôl yn fyw.

11 Iesu ydy'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn amdano: ‘Mae'r garreg wrthodwyd gynnoch chi'r adeiladwyr, wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.’

12 Fe ydy'r unig un sy'n achub! Does neb arall yn unman sy'n gallu achub pobl.”

13 Roedd aelodau'r cyngor yn rhyfeddu fod Pedr ac Ioan mor hyderus. Roedden nhw'n gweld mai dynion cyffredin di-addysg oedden nhw, ond yn ymwybodol hefyd fod y dynion yma wedi bod gyda Iesu.

14 Gan fod y dyn oedd wedi cael ei iacháu yn sefyll yno o'u blaenau, doedd dim byd arall i'w ddweud.

15 Felly dyma nhw'n eu hanfon allan o'r Sanhedrin er mwyn trafod y mater gyda'i gilydd.

16 “Beth wnawn ni â'r dynion yma?” medden nhw. “Mae pawb yn Jerwsalem yn gwybod eu bod wedi cyflawni gwyrth anhygoel, a dŷn ni ddim yn gallu gwadu hynny.

17 Ond mae'n rhaid stopio hyn rhag mynd ymhellach. Rhaid i ni eu rhybuddio nhw i beidio dysgu am yr Iesu yma byth eto.”

18 Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o'u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto.

19 Ond dyma Pedr ac Ioan yn ateb, “Beth ydych chi'n feddwl fyddai Duw am i ni ei wneud – gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe?

20 Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dŷn ni wedi eu gweld a'u clywed.”

21 Dyma nhw'n eu bygwth eto, ond yna'n eu gollwng yn rhydd. Doedd dim modd eu cosbi nhw, am fod y bobl o'u plaid nhw. Roedd pawb yn moli Duw am yr hyn oedd wedi digwydd.

22 Roedd hi'n wyrth anhygoel! Roedd y dyn dros bedwar deg oed a doedd e ddim wedi cerdded erioed o'r blaen!

Gweddi'r Credinwyr

23 Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei fygwth.

24 Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw'n gweddïo gyda'i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy'n rheoli'r cwbl, a thi ydy'r Un sydd wedi creu yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw.

25 Ti ddwedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae'r cenhedloedd mor gynddeiriog, a'r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?

26 Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i wrthwynebu'r Arglwydd, ac i wrthwynebu ei Eneiniog.’

27 “Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio.

28 Ond dim ond gwneud beth roeddet ti wedi ei drefnu i ddigwydd oedden nhw!

29 Felly, Arglwydd, edrych arnyn nhw yn ein bygwth ni nawr. Rho'r gallu i dy weision i gyhoeddi dy neges di yn gwbl ddi-ofn.

30 Dangos dy fod ti gyda ni drwy ddal ati i iacháu pobl, a rhoi awdurdod dy was sanctaidd Iesu i ni, i wneud gwyrthiau rhyfeddol.”

31 Ar ôl iddyn nhw weddïo, dyma'r adeilad lle roedden nhw'n cyfarfod yn cael ei ysgwyd. Dyma nhw'n cael eu llenwi eto â'r Ysbryd Glân, ac roedden nhw'n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn.

Y credinwyr yn rhannu eu heiddo gyda'i gilydd

32 Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!.” Roedden nhw'n rhannu popeth gyda'i gilydd.

33 Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio'n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw.

34 Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu,

35 ac yn rhoi'r arian i'r apostolion i'w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen.

36 Er enghraifft, Joseff, y dyn roedd yr apostolion yn ei alw'n Barnabas (sy'n golygu ‛yr anogwr‛). Iddew o dras llwyth Lefi yn byw yn Cyprus.

37 Gwerthodd hwnnw dir oedd ganddo a rhoi'r arian i'r apostolion.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28