10 Tra roedden nhw'n syllu i'r awyr yn edrych arno'n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw,
11 a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi'n ei wneud yma yn syllu i'r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”
12 Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o'r ddinas. Dyma nhw'n cerdded yn ôl i Jerwsalem
13 a mynd yn syth i'r ystafell honno i fyny'r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw'n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago.
14 Roedden nhw'n cyfarfod yno'n gyson i weddïo gyda'i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a'i frodyr, a nifer o wragedd.
15 Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol,
16 a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i'w arestio.