1 Roedd dyn o'r enw Cornelius yn byw yn Cesarea, oedd yn swyddog milwrol yn y Gatrawd Eidalaidd.
2 Roedd e a'i deulu yn bobl grefyddol a duwiol; roedd yn rhoi'n hael i'r Iddewon oedd mewn angen ac yn ddyn oedd yn gweddïo ar Dduw yn rheolaidd.
3 Un diwrnod, tua tri o'r gloch y p'nawn, cafodd weledigaeth. Gwelodd un o angylion Duw yn dod ato ac yn galw arno, “Cornelius!”
4 Roedd Cornelius yn syllu arno mewn dychryn. “Beth, Arglwydd?” meddai. Atebodd yr angel, “Mae dy weddïau a'th roddion i'r tlodion wedi cael eu derbyn fel offrwm gan Dduw.
5 Anfon ddynion i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr.