3 Un diwrnod, tua tri o'r gloch y p'nawn, cafodd weledigaeth. Gwelodd un o angylion Duw yn dod ato ac yn galw arno, “Cornelius!”
4 Roedd Cornelius yn syllu arno mewn dychryn. “Beth, Arglwydd?” meddai. Atebodd yr angel, “Mae dy weddïau a'th roddion i'r tlodion wedi cael eu derbyn fel offrwm gan Dduw.
5 Anfon ddynion i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr.
6 Mae'n aros yn nhŷ Simon y gweithiwr lledr ar lan y môr.”
7 Pan aeth yr angel i ffwrdd, dyma Cornelius yn galw dau o'i weision a milwr duwiol oedd yn un o'i warchodwyr personol.
8 Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, a'u hanfon i Jopa.
9 Tua chanol dydd y diwrnod wedyn pan roedd gweision Cornelius bron â chyrraedd Jopa, roedd Pedr wedi mynd i fyny i ben y to i weddïo.