30 Atebodd Cornelius: “Bedwar diwrnod yn ôl tua'r adeg yma, sef tri o'r gloch y p'nawn, roeddwn i yn y tŷ yn gweddïo. Yn sydyn roedd dyn yn sefyll o mlaen i a'i ddillad yn disgleirio'n llachar.
31 Dwedodd wrtho i ‘Cornelius, mae Duw wedi clywed dy weddi a derbyn dy roddion i'r tlodion.
32 Anfon rywun i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. Mae'n aros yng nghartre Simon, gweithiwr lledr sy'n byw ar lan y môr.’
33 Felly dyma fi'n anfon amdanat ti ar unwaith. Dw i'n ddiolchgar i ti am ddod. Felly dŷn ni yma i gyd i wrando ar y cwbl mae'r Arglwydd Dduw am i ti ei ddweud wrthon ni.”
34 Felly dyma Pedr yn dechrau eu hannerch: “Dw i'n deall yn iawn erbyn hyn, y dywediad hwnnw fod Duw ddim yn dangos ffafriaeth!
35 Mae'n derbyn pobl o bob gwlad sy'n ei addoli ac yn gwneud beth sy'n iawn.
36 Anfonodd Duw ei neges at bobl Israel, a dweud y newyddion da fod bywyd llawn i'w gael drwy Iesu y Meseia, sy'n Arglwydd ar bopeth.