6 Mae'n aros yn nhŷ Simon y gweithiwr lledr ar lan y môr.”
7 Pan aeth yr angel i ffwrdd, dyma Cornelius yn galw dau o'i weision a milwr duwiol oedd yn un o'i warchodwyr personol.
8 Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, a'u hanfon i Jopa.
9 Tua chanol dydd y diwrnod wedyn pan roedd gweision Cornelius bron â chyrraedd Jopa, roedd Pedr wedi mynd i fyny i ben y to i weddïo.
10 Dechreuodd deimlo ei fod eisiau bwyd. Tra roedd cinio yn cael ei baratoi cafodd weledigaeth.
11 Gwelodd yr awyr yn agor a rhywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr i'r ddaear wrth ei phedair cornel.
12 Y tu mewn i'r gynfas roedd pob math o anifeiliaid, ymlusgiaid ac adar.