22 Dyma'r bobl yn dechrau gweiddi, “Duw ydy hwn, nid dyn sy'n siarad!”
23 A'r eiliad honno dyma angel Duw yn ei daro'n wael, am iddo adael i'r bobl ei addoli fel petai e'n dduw. Cafodd ei fwyta gan lyngyr a buodd farw.
24 Ond roedd neges Duw yn dal i fynd ar led, a mwy a mwy o bobl yn dod i gredu.
25 Ar ôl i Barnabas a Saul fynd â'r rhodd i Jerwsalem, dyma nhw'n mynd yn ôl i Antiochia, a mynd â Ioan Marc gyda nhw.