5 Tra roedd Pedr yn y carchar roedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw drosto.
6 Y noson cyn yr achos llys, roedd Pedr yn cysgu. Roedd wedi ei gadwyno i ddau filwr – un bob ochr iddo, a'r lleill yn gwarchod y fynedfa.
7 Yn sydyn roedd angel yno, a golau yn disgleirio drwy'r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i'w ddeffro. “Brysia!” meddai, “Cod ar dy draed!”, a dyma'r cadwyni'n disgyn oddi ar freichiau Pedr.
8 Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.” Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma'r angel yn dweud, “Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.”
9 Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o'r gell – ond heb wybod os oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl!
10 Dyma nhw'n mynd heibio'r gwarchodwr cyntaf, a'r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i'r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd trwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma'r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun.
11 Dyna pryd daeth ato'i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! – mae'r Arglwydd wedi anfon ei angel i'm hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.”