24 Wedyn dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i Pisidia ac yna i Pamffilia,
25 ac ar ôl pregethu'r newyddion da yn Perga mynd yn eu blaenau i Atalia.
26 Wedyn hwylio o Atalia yn ôl i Antiochia Syria. (Dyna lle gwnaethon nhw gael eu cyflwyno i ofal Duw i wneud y gwaith roedden nhw bellach wedi ei orffen.)
27 Yno dyma nhw'n galw'r eglwys at ei gilydd a dweud am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw, a sut oedd wedi rhoi'r cyfle i bobl o genhedloedd eraill ddod i gredu.
28 Wedyn dyma nhw'n aros gyda'r Cristnogion yn Antiochia am amser hir.