3 Arhosodd Paul a Barnabas yno am amser hir, yn dal ati i siarad yn gwbl ddi-ofn am yr Arglwydd. Ac roedd yr Arglwydd yn profi fod y neges am ei ddaioni yn wir drwy roi'r gallu iddyn nhw wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos ei fod e gyda nhw.
4 Roedd pobl y ddinas wedi eu rhannu; rhai yn ochri gyda'r Iddewon, a'r lleill o blaid yr apostolion.
5 Dyma rai o bobl y cenhedloedd, gyda'r Iddewon a'u harweinwyr, yn cynllwyn i ymosod ar Paul a Barnabas a'u lladd drwy daflu cerrig atyn nhw.
6 Ond clywon nhw beth oedd ar y gweill, a dianc i'r ardal o gwmpas Lystra a Derbe yn Lycaonia.
7 A dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi'r newyddion da yno.
8 Yn Lystra dyma nhw'n dod ar draws rhyw ddyn oedd ag anabledd yn ei draed; roedd wedi ei eni felly ac erioed wedi gallu cerdded.
9 Roedd yn gwrando ar Paul yn siarad. Roedd Paul yn edrych arno, a gwelodd fod gan y dyn ffydd y gallai gael ei iacháu.