8 Yn Lystra dyma nhw'n dod ar draws rhyw ddyn oedd ag anabledd yn ei draed; roedd wedi ei eni felly ac erioed wedi gallu cerdded.
9 Roedd yn gwrando ar Paul yn siarad. Roedd Paul yn edrych arno, a gwelodd fod gan y dyn ffydd y gallai gael ei iacháu.
10 Meddai wrtho yng nghlyw pawb, “Saf ar dy draed!”, a dyma'r dyn yn neidio ar ei draed yn y fan a'r lle ac yn dechrau cerdded.
11 Pan welodd y dyrfa beth wnaeth Paul, dyma nhw'n dechrau gweiddi yn iaith Lycaonia, “Mae'r duwiau wedi dod i lawr aton ni fel dynion!”
12 Dyma nhw'n penderfynu mai y duw Zews oedd Barnabas, ac mai Hermes oedd Paul (gan mai fe oedd yn gwneud y siarad).
13 Dyma offeiriad o deml Zews, oedd ychydig y tu allan i'r ddinas, yn dod â theirw a thorchau o flodau at giatiau'r ddinas, gyda'r bwriad o gyflwyno aberthau iddyn nhw.
14 Ond pan ddeallodd y ddau beth oedd yn mynd ymlaen, dyma nhw'n rhwygo eu dillad ac yn rhuthro allan i ganol y dyrfa, yn gweiddi: