1 Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth rhyw ddynion o Jwdea a dechrau dysgu hyn i'r credinwyr yn Antiochia: “Allwch chi ddim cael eich achub heb gadw'r ddefod Iddewig o enwaedu dynion fel gwnaeth Moses ddysgu.”
2 Achosodd hyn ddadlau a thaeru ffyrnig rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas. Felly dyma'r eglwys yn dewis Paul a Barnabas gydag eraill i fynd i Jerwsalem i drafod y mater gyda'r apostolion a'r arweinwyr yno.
3 Ar eu ffordd yno dyma nhw'n galw heibio'r credinwyr yn Phenicia a Samaria, a dweud wrthyn nhw am y bobl o genhedloedd eraill oedd wedi cael tröedigaeth. Roedd y credinwyr wrth eu boddau o glywed yr hanes.
4 Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion a'r arweinwyr eraill yno. A dyma nhw'n adrodd hanes y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw.
5 Ond dyma rai o'r Phariseaid oedd wedi dod i gredu yn sefyll ar eu traed a dadlau fod rhaid i bobl o genhedloedd eraill sy'n dod i gredu ufuddhau i Gyfraith Moses a chadw'r ddefod o enwaedu.