12 Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill.
13 Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr.
14 Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddo'i hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf.
15 Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft:
16 ‘Bydda i'n dod nôl wedi hyn i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n adeiladu ei adfeilion, a'i adfer,
17 er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma
18 yn hysbys ers oesoedd maith.