13 Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr.
14 Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddo'i hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf.
15 Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft:
16 ‘Bydda i'n dod nôl wedi hyn i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n adeiladu ei adfeilion, a'i adfer,
17 er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma
18 yn hysbys ers oesoedd maith.
19 “Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethau'n anodd i'r bobl o genhedloedd eraill sy'n troi at Dduw.