22 Dyma'r apostolion, gyda'r eglwys gyfan a'i harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau o'r arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (sy'n cael ei alw'n Barsabas) a Silas.
23 Ac roedden nhw i fynd â'r llythyr yma gyda nhw:Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys.At ein brodyr a'n chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia:Cyfarchion!
24 Dŷn ni wedi clywed fod rhywrai oddi yma wedi bod yn creu helynt acw, ac yn eich drysu a'ch ypsetio chi gyda beth maen nhw'n ei ddysgu. Dim ni wnaeth eu hanfon nhw.
25 Felly dŷn ni wedi cytuno'n unfrydol i anfon dynion atoch chi gyda'n ffrindiau annwyl Barnabas a Paul
26 sydd wedi mentro'u bywydau dros ein Harglwydd Iesu Grist.
27 Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wedi ei roi yn y llythyr yma.
28 Mae'r Ysbryd Glân wedi dangos i ni, a ninnau wedi penderfynu na ddylen ni ofyn mwy na hyn gynnoch chi: