32 A dyma Jwdas a Silas, oedd yn broffwydi, yn siarad yn hir gyda'r Cristnogion yno, a dweud llawer o bethau i'w hannog a chryfhau eu ffydd.
33 Ar ôl aros yn Antiochia am beth amser, dyma'r ddau yn mynd yn ôl i Jerwsalem at y bobl oedd wedi eu hanfon, a hynny gyda bendith Cristnogion Antiochia.
35 Ond arhosodd Paul a Barnabas i helpu pawb arall oedd yn dysgu ac yn cyhoeddi neges yr Arglwydd yno.
36 Ar ôl i dipyn o amser fynd heibio dyma Paul yn dweud wrth Barnabas, “Gad i ni fynd yn ôl i ymweld â'r credinwyr yn y lleoedd hynny lle buon ni'n cyhoeddi neges yr Arglwydd, i weld sut maen nhw'n dod yn eu blaenau.”
37 Roedd Barnabas am fynd, ond roedd eisiau mynd â Ioan Marc gyda nhw hefyd.
38 Ond roedd Paul yn gwbl benderfynol na ddylai gael mynd, am fod Marc wedi troi ei gefn arnyn nhw yn Pamffilia a heb gario ymlaen gyda nhw yn y gwaith.
39 Aeth hi'n gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu. Dyma Barnabas yn hwylio i Cyprus gyda Marc,