35 Ond arhosodd Paul a Barnabas i helpu pawb arall oedd yn dysgu ac yn cyhoeddi neges yr Arglwydd yno.
36 Ar ôl i dipyn o amser fynd heibio dyma Paul yn dweud wrth Barnabas, “Gad i ni fynd yn ôl i ymweld â'r credinwyr yn y lleoedd hynny lle buon ni'n cyhoeddi neges yr Arglwydd, i weld sut maen nhw'n dod yn eu blaenau.”
37 Roedd Barnabas am fynd, ond roedd eisiau mynd â Ioan Marc gyda nhw hefyd.
38 Ond roedd Paul yn gwbl benderfynol na ddylai gael mynd, am fod Marc wedi troi ei gefn arnyn nhw yn Pamffilia a heb gario ymlaen gyda nhw yn y gwaith.
39 Aeth hi'n gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu. Dyma Barnabas yn hwylio i Cyprus gyda Marc,
40 a Paul yn dewis Silas i fynd gydag e. Ar ôl cael eu cyflwyno i ofal yr Arglwydd gan y credinwyr eraill,
41 dyma nhw'n teithio drwy Syria a Cilicia yn cryfhau'r eglwysi.