1 Aeth Paul ymlaen i Derbe ac yna i Lystra, lle roedd disgybl o'r enw Timotheus yn byw. Roedd ei fam yn Iddewes ac yn credu, ond ei dad yn Roegwr.
2 Dim ond pethau da oedd gan Gristnogion Lystra ac Iconium i'w dweud am Timotheus,
3 felly roedd Paul am iddo fynd gyda nhw ar y daith. Trefnodd i Timotheus gael ei enwaedu rhag i'r Iddewon yn yr ardal gael eu tramgwyddo. Roedden nhw'n gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr.
4 Wrth deithio o un dref i'r llall roedden nhw'n dweud beth oedd yr apostolion a'r arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill.
5 Felly roedd ffydd yr eglwysi yn cryfhau a nifer y bobl ynddyn nhw'n tyfu bob dydd.
6 Teithiodd Paul a'i ffrindiau ymlaen ar hyd cyrion Phrygia a Galatia, gan fod yr Ysbryd Glân wedi eu stopio nhw rhag mynd i dalaith Asia i rannu eu neges.
7 Dyma nhw'n cyrraedd ffin Mysia gyda'r bwriad o fynd ymlaen i Bithynia, ond dyma Ysbryd Glân Iesu yn eu stopio nhw rhag mynd yno hefyd.