20 “Mae'r Iddewon hyn yn codi twrw yn y dre,” medden nhw wrth yr ynadon
21 “ac maen nhw'n annog pobl i wneud pethau sy'n groes i'n harferion ni Rufeiniaid.”
22 Ymunodd y dyrfa yn yr ymosod ar Paul a Silas, a dyma'r ynadon yn gorchymyn tynnu dillad y ddau a'u curo â ffyn.
23 Wedyn ar ôl eu curo'n ddidrugaredd, dyma nhw'n eu taflu nhw i'r carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn i'w gwylio nhw'n ofalus,
24 felly rhoddodd y ddau ohonyn nhw yn y gell fwyaf diogel a rhoi eu traed mewn cyffion.
25 Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthi'n gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando.
26 Yna'n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i'w sylfeini. Dyma'r drysau i gyd yn agor, a'r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb!