26 Yna'n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i'w sylfeini. Dyma'r drysau i gyd yn agor, a'r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb!
27 Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun.
28 Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!”
29 Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o'u blaenau yn crynu mewn ofn.
30 Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?”
31 Dyma nhw'n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.”
32 A dyma nhw'n rhannu'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda'r swyddog a phawb arall yn ei dŷ.