28 Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!”
29 Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o'u blaenau yn crynu mewn ofn.
30 Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?”
31 Dyma nhw'n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.”
32 A dyma nhw'n rhannu'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda'r swyddog a phawb arall yn ei dŷ.
33 Yna aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio.
34 Yna aeth â nhw i'w gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.