8 Felly dyma nhw'n mynd trwy Mysia i lawr i ddinas Troas.
9 Y noson honno cafodd Paul weledigaeth – roedd dyn o Macedonia yn sefyll o'i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!”
10 Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da.
11 Dyma ni'n hwylio o borthladd Troas a chroesi'n syth ar draws i ynys Samothrace, cyn glanio yn Neapolis y diwrnod wedyn.
12 O'r fan honno aethon ni ymlaen i Philipi sy'n dref Rufeinig – y ddinas fwyaf yn y rhan honno o Macedonia. Buon ni yno am rai dyddiau.
13 Ar y dydd Saboth dyma ni'n mynd allan o'r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni'n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni'n eistedd i lawr a dechrau siarad â'r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno.
14 Roedd un wraig yno o'r enw Lydia – gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi'n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi'n ymateb i neges Paul.