1 Dyma nhw'n teithio drwy drefi Amffipolis ac Apolonia a chyrraedd Thesalonica, lle roedd synagog Iddewig.
2 Aeth Paul i'r cyfarfodydd yn y synagog yn ôl ei arfer, ac am dri Saboth yn olynol buodd yn trafod yr ysgrifau sanctaidd gyda'r bobl yno.
3 Dangosodd iddyn nhw'n glir a phrofi fod rhaid i'r Meseia ddioddef, a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Yr Iesu dw i'n sôn amdano ydy'r Meseia,” meddai wrthyn nhw.
4 Cafodd rhai o'r Iddewon oedd yno'n gwrando eu perswadio, a dyma nhw'n ymuno â Paul a Silas. Daeth nifer fawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw i gredu hefyd, a sawl un o wragedd pwysig y dre.