5 Ond roedd arweinwyr yr Iddewon yn genfigennus; felly dyma nhw'n casglu criw o ddynion oedd yn loetran yn sgwâr y farchnad a'u cael i ddechrau codi twrw yn y ddinas. Dyma nhw'n mynd i dŷ Jason i chwilio am Paul a Silas er mwyn dod â nhw allan at y dyrfa.
6 Ond ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, dyma nhw'n llusgo Jason a rhai o'r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas. Roedden nhw'n gweiddi: “Mae'r dynion sydd wedi bod yn codi twrw ar hyd a lled y byd wedi dod i'n dinas ni,
7 ac mae Jason wedi eu croesawu nhw i'w dŷ! Maen nhw'n herio Cesar, trwy ddweud fod brenin arall o'r enw Iesu!”
8 Roedd y dyrfa a'r swyddogion wedi cyffroi wrth glywed y cyhuddiadau yma.
9 Ond dyma'r swyddogion yn penderfynu rhyddhau Jason a'r lleill ar fechnïaeth.
10 Yn syth ar ôl iddi nosi, dyma'r credinwyr yn anfon Paul a Silas i ffwrdd i Berea. Ar ôl cyrraedd yno dyma nhw'n mynd i'r synagog Iddewig.
11 Roedd pobl Berea yn fwy agored na'r Thesaloniaid. Roedden nhw'n gwrando'n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio'r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld os oedd y pethau roedd e'n ddweud yn wir.