10 Dw i gyda ti, a fydd neb yn ymosod arnat ti na gwneud niwed i ti. Dw i'n mynd i achub llawer o bobl yn y ddinas yma.”
11 Felly arhosodd Paul yn Corinth am flwyddyn a hanner, yn dysgu neges Duw i'r bobl.
12 Tra roedd Galio yn rhaglaw ar Achaia, dyma'r arweinwyr Iddewig yn dod at ei gilydd i ddal Paul a mynd ag e i'r llys.
13 Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd, “Perswadio pobl i addoli Duw mewn ffyrdd anghyfreithlon.”
14 Ond cyn i Paul gael cyfle i gyflwyno ei amddiffyniad, dyma Galio yn dweud wrth yr Iddewon: “Petaech chi Iddewon yn dod â'r dyn yma o flaen y llys am gamymddwyn neu gyflawni rhyw drosedd difrifol, byddwn i'n caniatáu i'r achos fynd yn ei flaen.
15 Ond y cwbl sydd yma ydy dadl am sut i ddehongli manion eich Cyfraith chi. Felly ewch i ddelio gyda'r mater eich hunain. Dw i'n gwrthod barnu'r achos.”
16 Felly taflodd nhw allan o'r llys.