15 Ond y cwbl sydd yma ydy dadl am sut i ddehongli manion eich Cyfraith chi. Felly ewch i ddelio gyda'r mater eich hunain. Dw i'n gwrthod barnu'r achos.”
16 Felly taflodd nhw allan o'r llys.
17 Y tu allan i'r llys dyma griw o bobl yn gafael yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro. Ond doedd Galio ddim fel petai'n poeni dim.
18 Arhosodd Paul yn Corinth am amser hir wedyn. Pan ffarweliodd â'r Cristnogion yno hwyliodd i Syria, ac aeth Priscila ac Acwila gydag e. (Cyn mynd ar y llong yn Cenchrea roedd Paul wedi cadw'r ddefod Iddewig o eillio ei ben fel arwydd o gysegru ei hun yn llwyr i Dduw.)
19 Ar ôl glanio yn Effesus, gadawodd Paul Priscila ac Acwila yno. Ond tra roedd yno aeth i drafod gyda'r Iddewon yn y synagog.
20 Dyma nhw'n gofyn iddo aros yn hirach yno, ond gwrthododd.
21 Ond wrth adael addawodd iddyn nhw, “Bydda i'n dod nôl atoch chi os Duw a'i myn.” Felly hwyliodd Paul yn ei flaen o Effesus,