3 Gwneud pebyll oedd eu crefft nhw fel yntau, ac felly aeth Paul i weithio atyn nhw.
4 Yna bob Saboth byddai'n mynd i'r synagog ac yn ceisio perswadio Iddewon a Groegiaid i gredu'r newyddion da.
5 Ar ôl i Silas a Timotheus gyrraedd o Macedonia dyma Paul yn mynd ati i bregethu'n llawn amser, a dangos yn glir i'r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.
6 Ond pan wnaethon nhw droi yn ei erbyn a dechrau ei sarhau, dyma Paul yn ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad fel arwydd iddyn nhw. “Arnoch chi mae'r bai am beth bynnag fydd yn digwydd i chi!” meddai, “Dw i wedi gwneud beth dw i'n gallu. O hyn ymlaen dw i'n mynd at bobl y cenhedloedd eraill.”
7 Aeth Paul i aros yn nhŷ Titius Jwstus, oedd ddim yn Iddew ond oedd yn addoli Duw ac yn byw y drws nesa i'r synagog.
8 Roedd Crispus, arweinydd y synagog, a phawb yn ei dŷ, wedi dod i gredu yn yr Arglwydd; ac roedd llawer o bobl eraill Corinth wedi clywed Paul a dod i gredu hefyd, a chael eu bedyddio.
9 Un noson cafodd Paul weledigaeth, pan ddwedodd yr Arglwydd wrtho: “Paid bod ofn! Dal ati i ddweud wrth bobl amdana i. Paid bod yn ddistaw.