6 Ond pan wnaethon nhw droi yn ei erbyn a dechrau ei sarhau, dyma Paul yn ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad fel arwydd iddyn nhw. “Arnoch chi mae'r bai am beth bynnag fydd yn digwydd i chi!” meddai, “Dw i wedi gwneud beth dw i'n gallu. O hyn ymlaen dw i'n mynd at bobl y cenhedloedd eraill.”
7 Aeth Paul i aros yn nhŷ Titius Jwstus, oedd ddim yn Iddew ond oedd yn addoli Duw ac yn byw y drws nesa i'r synagog.
8 Roedd Crispus, arweinydd y synagog, a phawb yn ei dŷ, wedi dod i gredu yn yr Arglwydd; ac roedd llawer o bobl eraill Corinth wedi clywed Paul a dod i gredu hefyd, a chael eu bedyddio.
9 Un noson cafodd Paul weledigaeth, pan ddwedodd yr Arglwydd wrtho: “Paid bod ofn! Dal ati i ddweud wrth bobl amdana i. Paid bod yn ddistaw.
10 Dw i gyda ti, a fydd neb yn ymosod arnat ti na gwneud niwed i ti. Dw i'n mynd i achub llawer o bobl yn y ddinas yma.”
11 Felly arhosodd Paul yn Corinth am flwyddyn a hanner, yn dysgu neges Duw i'r bobl.
12 Tra roedd Galio yn rhaglaw ar Achaia, dyma'r arweinwyr Iddewig yn dod at ei gilydd i ddal Paul a mynd ag e i'r llys.