1 Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda'i gilydd eto.
2 Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle roedden nhw'n cyfarfod.
3 Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw.
4 Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.
5 Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem.