15 Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi, fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi!
16 “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:
17 ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion.
18 Bryd hynny bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw'n proffwydo.
19 Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear – gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.
20 Bydd yr haul yn troi'n dywyll a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd.
21 Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael eu hachub.’