32 A dyna ddigwyddodd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith!
33 Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi ei addo iddo, er mwyn iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi ei weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw.
34 “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
35 nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’
36 “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.”
37 Roedd pobl wedi eu hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?”
38 Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.