34 “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
35 nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’
36 “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.”
37 Roedd pobl wedi eu hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?”
38 Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.
39 Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i'ch disgynyddion, ac i bobl sy'n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato'i hun.”
40 Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!”