40 Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!”
41 Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio – tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!
42 Roedden nhw'n dal ati o ddifri. Yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda'i gilydd.
43 Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw.
44 Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo eu bod nhw'n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda'i gilydd.
45 Roedden nhw'n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen.
46 Roedden nhw'n dal ati i gyfarfod bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yn nhai ei gilydd.