1 Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw'r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a'u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia,
2 ac ar ôl teithio ar hyd a lled yr ardal honno yn annog y bobl, aeth i lawr i Corinth yn y de,
3 ac aros yno am dri mis. Pan oedd ar fin hwylio i Syria dyma fe'n darganfod fod yr Iddewon yn cynllwyn i ymosod arno, felly penderfynodd deithio yn ôl drwy Macedonia.
4 Yn teithio gydag e roedd Sopater fab Pyrrhus o Berea, Aristarchus a Secwndus o Thesalonica, Gaius o Derbe, hefyd Timotheus, a Tychicus a Troffimus o dalaith Asia.
5 Ond yna aeth y rhain yn eu blaenau i Troas, a disgwyl amdanon ni yno.
6 Wnaethon ni ddim gadael Philipi nes oedd Gŵyl y Bara Croyw (sef y Pasg) drosodd. Yna bum diwrnod wedyn roedden ni wedi ymuno gyda'r lleill eto yn Troas, a dyma ni'n aros yno am wythnos.
7 Ar y nos Sadwrn dyma ni'n cyfarfod i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Paul oedd yn pregethu, a chan ei fod yn bwriadu gadael y diwrnod wedyn, daliodd ati i siarad nes oedd hi'n hanner nos.