15 Y diwrnod wedyn dyma ni'n cyrraedd gyferbyn ag ynys Cios. Croesi i Samos y diwrnod canlynol. Ac yna'r diwrnod ar ôl hynny dyma ni'n glanio yn Miletus.
16 Roedd Paul wedi penderfynu peidio galw yn Effesus y tro yma, rhag iddo golli gormod o amser yn nhalaith Asia. Roedd ar frys, ac yn awyddus i gyrraedd Jerwsalem erbyn Gŵyl y Pentecost.
17 Ond tra roedd yn Miletus, anfonodd neges i Effesus yn galw arweinwyr yr eglwys i ddod draw i Miletus i'w gyfarfod.
18 Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i'w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod yn iawn sut fues i'n gweithio i'r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia.
19 Dych chi'n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi'n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i.
20 Dych chi'n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i'r llall yn eich dysgu chi.
21 Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o'u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu.