28 “Gofalwch amdanoch eich hunain, a'r bobl mae'r Ysbryd Glân wedi eu rhoi yn eich gofal fel arweinwyr. Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd – dyma'r eglwys wnaeth Duw ei phrynu'n rhydd â'i waed ei hun!
29 Dw i'n gwybod yn iawn y bydd athrawon twyllodrus yn dod i'ch plith chi cyn gynted ag y bydda i wedi mynd, fel bleiddiaid gwyllt yn llarpio'r praidd.
30 Bydd hyd yn oed rhai o'ch pobl chi'ch hunain yn twistio'r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw eu hunain.
31 Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi.
32 “Dw i'n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a'r neges am ei gariad a'i haelioni. Y neges yma sy'n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi eu cysegru iddo'i hun.
33 Dw i ddim wedi ceisio cael arian na dillad gan neb.
34 Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau.