30 Bydd hyd yn oed rhai o'ch pobl chi'ch hunain yn twistio'r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw eu hunain.
31 Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi.
32 “Dw i'n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a'r neges am ei gariad a'i haelioni. Y neges yma sy'n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi eu cysegru iddo'i hun.
33 Dw i ddim wedi ceisio cael arian na dillad gan neb.
34 Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau.
35 Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’”
36 Ar ôl dweud hyn i gyd, aeth ar ei liniau i weddïo gyda nhw.