34 Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau.
35 Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’”
36 Ar ôl dweud hyn i gyd, aeth ar ei liniau i weddïo gyda nhw.
37 Dyma pawb yn dechrau crïo wrth gofleidio Paul a'i gusanu.
38 (Roedden nhw'n arbennig o drist am ei fod wedi dweud y bydden nhw ddim yn ei weld byth eto.) Wedyn dyma nhw'n mynd i lawr at y llong gydag e.