8 Roedden ni'n cyfarfod mewn ystafell i fyny'r grisiau, ac roedd llawer o lampau yn llosgi yno.
9 Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o'r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o'r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o'r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw'n mynd i'w godi, ond roedd wedi marw.
10 Ond yna aeth Paul i lawr, a thaflu ei freichiau o gwmpas y dyn ifanc. “Peidiwch cynhyrfu!”, meddai, “Mae'n fyw!”
11 Wedyn aeth yn ôl i fyny i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Aeth yn ei flaen i siarad nes oedd hi wedi gwawrio, ac yna gadawodd nhw.
12 Dyma nhw'n mynd â'r dyn ifanc adre'n fyw, ac roedd pawb wedi eu calonogi'n fawr.
13 Dyma Paul yn penderfynu croesi ar draws gwlad i Assos. Roedd am i'r gweddill ohonon ni hwylio yno ar long, a byddai'n ein cyfarfod ni yno.
14 Yn Assos ymunodd â ni ar y llong a dyma ni'n hwylio ymlaen i Mitylene.